Cliciwch y botwm isod i archebu eich lluniau ysgol.
Prisiau ein Lluniau Ysgol Gweld eich lluniauYn ddiweddar gorffennais weithio fel Rheolwr yn Adran y Gwasanaethau Dysgu yng Nghyngor Sir Ceredigion wedi 26 mlynedd o wasanaeth. Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rwyf yn berchen ar gwmni Ffotograffiaeth a Ffilmio Siwsi, yn Llandre, tua 4 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Gyda 30 mlynedd o brofiad o Ffotograffiaeth a Ffilmio mewn Priodasau, Cyngherddau Ysgol, Ysgolion Dawns, Theatr a Seminarau yn ogystal â thynnu lluniau portrait, pasbort/trwyddedau gyrru, lluniau ysgol, achlysuron arbennig ac ati.
Yr wyf yn awr yn cymryd archebion ar gyfer lluniau unigolion, dosbarthiadau a'r theulu. Yr wyf hefyd yn darparu copi electronig o'r delweddau er mwyn i'r ysgol eu lanlwytho ar Ganolfan Athrawon yr Awrdurdod yn hawdd ac yn gyflym.
Mae'r prisiau yn gystadleuol a chodir ffi am y lluniau yn unig.
Fel cymhelliant rhoddir % o'r elw i'r ysgol fel diolch am yr archeb.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â mi os ydych am sgwrs bellach.
Suzanne
Lawrlwythwch ein Llyfryn Lluniau Ysgolion
Lawrlwythwch ein Llyfryn Lluniau Ysgolion