Rwyf yn byw yng Ngheredigion ac wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Llywodraeth Leol gyda Chyngor Sir Ceredigion ers 26 mlynedd a oedd yn cynnwys bod yn Rheolwr y Tîm Cyllid Myfyrwyr.
Ffotograffydd Proffesiynol a Fideograffydd llawn amser ers Ionawr 2017.
Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Wedi gweithio yn y Sector Llywodraeth Leol am 26 mlynedd, yr wyf yn gwybod fod rhai yn anghyfforddus yn llanw ffurflenni cais ar gyfer dogfennau pwysig. Mae pawb am sicrhau eu bod yn llanw ceisiadau yn gywir. Yn aml rydym yn gweithio ac mae’n anodd cysylltu gyda’r sefydliad perthnasol ar adeg sydd yn gyfleus i ni. Am ffi bychan ac yn fwy na dim er mwyn cael tawelwch meddwl gallaf gynnig Cefnogaeth Ymgynghori Proffesiynol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
Mae llawer o rieni yn poeni am lanw ffurflenni’n gywir a chyflwyno manylion ariannol ar system electronig Cyllid Myfyrwyr Cymru. Am apwyntment sydd yn costio £20.00, gallaf gynnig gwasanaeth dwyieithog i’ch helpu gyda gwneud cais arlein i Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Does ond angen gwneud apwyntment (yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar benwythnosau) a gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phob dogfen.
Cysylltwch â Suzanne Fearn ar 07972 351190 / 01970 820044 neu e-bostwich contact@siwsi.co.uk (Cyn Reolwr Llywodraeth Leol gyda Chyngor Sir Ceredigion am 25 mlynedd, gan gynnwys rheoli’r Tîm Cyllid Myfyrwyr am 10 mlynedd).
Lluniau pasbort am £8.00, neu:
Am ffi bychan o £15.00 gallaf dynnu eich Llun Pasbort a rhoi cymorth i chi gwblhau eich Cais Pasbort arlein.
Does ond angen gwneud apwyntment (yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar benwythnosau) a gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phob dogfen.
Bydd eich cais yn cael ei anfon at Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi yn ystod eich apwyntment. Ni fydd angen i chi boeni a fydd eich llun yn cael ei dderbyn na fod y ffurflen yn cael ei llanw’n gywir.
Lluniau Trwydded Yrru am £8.00, neu:
Am ffi bychan o £15.00 gallaf dynnu eich Llun Trwydded Yrru a rhoi cymorth i chi gwblhau eich Cais am Drwydded Yrru arlein.
Does ond angen gwneud apwyntment (yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar benwythnosau) a gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â phob dogfen.
Bydd eich cais yn cael ei anfon at y DVLA yn ystod eich apwyntment. Ni fydd angen i chi boeni a fydd eich llun yn cael ei dderbyn na fod y ffurflen yn cael ei llanw’n gywir.
Os oes gennych gwestiynau neu os ydych am apwyntment, cysylltwch â:
Bryn Rhedyn, Llandre, Aberystwyth - SY24 5AD
07972 351190 / 01970 820044
contact@siwsi.co.uk