Rwyf yn berchen ar gwmni Ffotograffiaeth a Ffilmio Siwsi, yn Llandre, tua 4 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Gyda 30 mlynedd o brofiad o Ffotograffiaeth a Ffilmio mewn Priodasau, Cyngherddau Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, perfformiadau Ysgolion Dawns Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr a Seminarau yn ogystal â thynnu lluniau portrait, pasbort/trwyddedau gyrru, lluniau ysgol, achlysuron arbennig ac ati. Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallaf gynnig gwasanaeth stiwdio mewn amgylchedd ymlaciol fel y gallwch fwynhau’r profiad o gael llun proffesiynol ar adeg sydd fwyaf cyfleus i chi.
I’r rhai hynny sydd yn well ganddynt fynd am dro ar hyd y traeth/yn y goedwig neu efallai i’ch hoff le gallaf hefyd gynnig apwyntment ar gyfer tynnu lluniau yn yr awyr agored.
Lluniau eraill yr hoffech eu hystyried efallai yw:
Neu os am rywbeth gwahanol beth am daleb yn anrheg i’ch partner, ffrind neu berthynas ar gyfer apwyntment gan gynnwys sesiwn tynnu lluniau a phrint 10" x 8"
Peidiwch ag oedi i gysylltu â mi os am drafod ymhellach
Suzanne