Rwyf yn berchen ar gwmni Ffotograffiaeth a Ffilmio Siwsi, yn Llandre, tua 4 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Gyda 30 mlynedd o brofiad o Ffotograffiaeth a Ffilmio mewn Priodasau, Cyngherddau Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, perfformiadau sgolion Dawns Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr a Seminarau yn ogystal â thynnu lluniau portrait, pasbort/trwyddedau gyrru, lluniau ysgol, achlysuron arbennig ac ati. Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae fy mhrisiau yn gystadleuol iawn ac yn ddibynnol ar faint o gopiau o’r perfformiad fydd yn cael eu gwerthu, byddaf weithiau yn ffilmio yn rhad ac am ddim. Fel arfer bydd perfformiadau’n cael eu ffilmio gydag o leiaf dau gamera digidol 4k a’u golygu’n ofalus er mwyn rhoi amrywiol olwg o’r cynhyrchiad.
Fel cymhelliant i ysgolion ac yn ddibynnol ar y gwerthiant gallaf weithiau gynnig % o’r elw o’r gwerthiant fel diolch am eich cefnogaeth.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â mi os am drafod ymhellach
Suzanne
Cliciwch yma i weld ein waith!.
Archebwch trwy Wendy James, Swyddfa Ysgol Gymraeg
Archebwch trwy ysgol Plascrug