Lluniau Priodas

Rwyf yn berchen ar gwmni Ffotograffiaeth a Ffilmio Siwsi, yn Llandre, tua 4 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Gyda 30 mlynedd o brofiad o Ffotograffiaeth a Ffilmio mewn Priodasau, Cyngherddau Ysgol, Perfformiadau Ysgolion Dawns, Theatr a Seminarau.

Mae fy mhrisiau yn gystadleuol iawn. Cymrwch olwg ar ein pecynnau Arian, Aur a Diemwnt neu efallai yr hoffech becyn wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer eich diwrnod mawr.

Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallaf hefyd gynnig Pecyn Ffotograffiaeth a Ffilmio a all arbed arian i chi.

Peidiwch ag oedi i gysylltu â mi os ydych am sgwrs bellach.

Suzanne

Lluniau Priodas

Ein bwriad yw cofnodi eich diwrnod arbennig gyda'n gwasanaeth hynod broffesiynol gan ddarparu Albwm Priodas.

Gall ein gwasanaeth gynnig y pecynnau canlynol ar gyfer eich diwrnod arbennig:

Arian

  • Cyrraedd yr eglwys tua awr cyn y seremoni
  • Priodfab a'r Gwas Priodas yn cyrraedd yn ogystal â gwesteion
  • Priodferch yn cyrraedd a seremoni briodasol
  • Cyrraedd y gwesty/lleoliad a thynnu lluniau’r gwesteion cyn y wledd briodas.

15 tudalen (30 ochr) ar gyfer eich Albwm Priodas

Aur

  • Yn ychwanegol i’r Casgliad Arian
  • Lluniau yng nghartref y Briodferch
  • Areithiau yn y Brecwast Priodas

20 tudalen (80 ochr) ar gyfer eich Albwm Priodas

Diemwnt

  • Yn ychwanegol i’r Casgliad Aur:
  • Lluniau ychwanegol y Briodferch a'r Priodfab
  • Llun o’r dawns gyntaf y Briodferch a'r Priodfab


20 – 30 tudalen (40 – 60 ochr) Albwm Priodas Moethus mewn Bocs Cyflwyno arbennig

Cynnig arbennig - os byddwch yn bwcio cyn 1af o Fedi 2017 byddwn yn darparu’r Casgliad Diemwnt am bris Casgliad Aur