Gwybodaeth Fideo Priodas

Rwyf yn berchen ar gwmni Ffotograffiaeth a Ffilmio Siwsi, yn Llandre, tua 4 milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Gyda 30 mlynedd o brofiad o Ffotograffiaeth a Ffilmio mewn Priodasau, Cyngherddau Ysgol, Perfformiadau Ysgolion Dawns, Theatr a Seminarau.

Mae fy mhrisiau yn gystadleuol iawn. Cymrwch olwg ar ein pecynnau ffilmio Arian, Aur a Diemwnt neu efallai yr hoffech becyn wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer eich diwrnod mawr.

Mae gennyf gliriad DBS Manylach ac yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallaf hefyd gynnig Pecyn Ffotograffiaeth a Ffilmio a all arbed arian i chi.

Peidiwch ag oedi i gysylltu â mi os ydych am sgwrs bellach.

Suzanne

Casgliad Fideo Priodas

Ein bwriad yw cofnodi eich diwrnod arbennig ar gamerâu 4k gyda'n gwasanaeth proffesiynol gan ddarparu DVD i chi.

Gall ein gwasanaeth gynnig y pecynnau canlynol i ffilmio'r:

Arian

  • cyrraedd yr eglwys tua awr cyn y seremoni
  • Priodfab a'r Gwas Priodas yn cyrraedd yn ogystal â gwesteion
  • Priodferch yn cyrraedd, seremoni briodasol o'r blaen a'r cefn (yn dibynnu ar ganiatâd) a’r lluniau ffurfiol

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys 5 DVD (cewch gyfle i uwchraddio un copi i Blu-Ray, yn rhad ac am ddim).

Aur

  • Yn ychwanegol i’r Casgliad Arian
  • Yng nghartref y Briodferch
  • Cyrraedd y Wledd Briodas a ffilmio'r gwesteion cyn y wledd
  • Areithiau yn y Brecwast Priodas a thorri'r gacen

Diemwnt

  • Yn ychwanegol i’r Casgliad Aur
  • Dawns gyntaf y Briodferch a'r Priodfab a ffilmio cyffredinol yn y parti nos

Cynnig arbennig - os byddwch yn bwcio cyn 1af o Fedi 2017 byddwn yn darparu’r Casgliad Diemwnt am bris Casgliad Aur